Math | nendwr |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Camden |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5159°N 0.1297°W |
Cod OS | TQ2988081365 |
Arddull pensaernïol | Pensaernïaeth Friwtalaidd |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Adeilad yn Llundain Fwyaf yw Centre Point, sy'n cynnwys tŵr 33-llawr; bloc 9-llawr i'r dwyrain sy'n cynnwys siopau, swyddfeydd, unedau manwerthu a fflatiau deulawr; a bloc cysylltu rhwng y ddau ar y llawr cyntaf. Saif ar 101-103 New Oxford Street a 5-24 St Giles High Street, WC1, gyda ffryntiad hefyd i Charing Cross Road, yn agos i St. Giles Circus a bron yn uniongyrchol uwchben Tottenham Court Road orsaf Danddaearol. Yn hanesyddol bu crocbren ar y sale hwn safle.[1]
Mae'r adeilad yn 117m (385 troedfedd) o uchder, gyda 34 llawr[2] a 27,18027,180 m2 (292,563 tr sg) o arwynebedd llawr. Fe'i adeiladwyd rhwng 1963 a 1966, ac fe roedd yn un o'r nendyrau cyntaf yn Llundain ac ers 2009 mae'n gydradd 27fed adeilad talaf y ddinas. Safai'n wag ar ôl ei gwblhau tan 1975, ac am gyfnod yn 1974 fe'i meiddiannwyd gan ymgyrchwyr yn erbyn diffyg tai yn 1974. Yn 1995, fe'i ddynodwyd yn adeilad restredig Gradd II. Yn dilyn gwaith eang yn 2015 fe droswyd y tŵr o fod yn adeilad o swyddfeydd i fod yn fflatiau moethus.