Cerddoriaeth dawns electronig

Cerddoriaeth dawns electronig
Enghraifft o:genre gerddorol Edit this on Wikidata
Mathclub/dance music, cerddoriaeth electronig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1977 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gŵyl EDM yn 2013 yn Plainfeld, Austria gyda dros 100,000 o fynychwyr,[1] yn arddangos y dorf fawr a goleuo dramatig sy'n debygol mewn gŵyliau or fath ers y 2000 cynnar.

Mae Cerddoriaeth dawns electronig (hefyd yn cael ei adnabod fel EDM, dance music,[2] club music, neu'n syml dance) yn ddetholiad eang o gerddoriaeth electronig ergydiol sydd wedi'u creu yn bennaf ar gyfer clybiau nos, raves a gŵyliau cerddorol. Mae EDM yn gyffredinol wedi'w gynhyrchu ar gyfer ôl chwarae gan joci disgiau (DJs) sy'n creu detholiad diwnïas o draciau, sef mix, drwy gymysgu o un recordiad i'r llall.[3]

Mae cynhyrchwyr EDM hefyd yn perfformio'n fyw mewn cyngerddi neu ŵyliau, weithiau yn cael eu galw'n live PA. Yn Ewrop, mae EDM yn fwy adnabyddus fel 'dance music' neu'n syml 'dance'.[4]

Yn yr 1980s a'r 1990s cynnar, yn dilyn ymddangosiad cerddoriaeth rave, gorsafoedd radio answyddogol, a'r tŵf mewn diwylliant clwb, fe enillodd EDM boblogrwydd brif ffrwd yn Ewrop. Nid oedd cymhwysiad cyffredinol o ddiwylliant dawns yn yr Unol Daleithiau ar y pryd hynny, ac er bod Electro a cherddoriaeth Chicago house yn ddylanwadol iawn yn Ewrop ar UDA, arhosodd y cyfryngau prif ffrwd a'r diwylliant recordiau, yn elyniaethus tuag at EDM. Roedd hefyd barn gysylltiedig rhwng EDM a diwylliant gyffuriau a arweiniodd lywodraethau taleithiau a dinesig i gyflawni deddfau a polisiau a'r bwriad i atal lledaeniad o ddiwylliant rave.

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-07. Cyrchwyd 2018-04-23.
  2. Nodyn:Harvp
  3. Nodyn:Harvp
  4. "Definition". Dictionary.cambridge.org. Cyrchwyd 2017-07-09.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne