Arddangosfa animatronig o bedwarawd yr efengyl yn Amgueddfa Cymdeithas Cerddoriaeth Ddeheuol yr Efengyl yn Pigeon Forge, Tennessee. | |
Enghraifft o: | genre gerddorol |
---|---|
Math | cerddoriaeth yr efengyl |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Dechrau/Sefydlu | 1890 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Genre o gerddoriaeth Gristnogol o daleithiau deheuol Unol Daleithiau America yw cerddoriaeth ddeheuol yr efengyl (Saesneg: southern gospel music) neu efengyl y de, a elwir hefyd yn yr efengyl wen (white gospel) am iddi darddu o'r Americanwyr Ewropeaidd, yn wahanol i'r brif ffurf arall ar gerddoriaeth yr efengyl, sef yr efengyl ddu. Datblygodd y ddwy genre ar wahân yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g, y ddau draddodiad yn tarddu o'r mudiad efengylaidd Americanaidd ac yn tynnu i wahanol raddau ar gyfuniad o emynyddiaeth yr eglwysi gwynion a chaneuon ysbrydol yr Americanwyr Affricanaidd yn y 19g.
Mae geiriau caneuon deheuol yr efengyl yn canolbwyntio ar themâu Cristnogol megis iachawdwriaeth a grym gwaredigaeth, ffydd a thystiolaeth bersonol, a chyfeiriadau Beiblaidd, yn enwedig hanes Iesu Grist. Neges ysbrydoledig a dyrchafol sydd i'r gân, gan gyfleu gobaith, cariad a llawenydd, hyd yn oed os yw'n cyfeirio at ddioddefaint a phrofedigaeth.
Nodweddir efengyl y de gan leisiau cydgordiol, â chyfeiliant offerynnol y piano, y gitâr, drymiau, ac weithiau offerynnau pres. Cenir efengyl y de yn aml gan bedwarawd o leisiau gwrywaidd: y tenor, y prif lais, y bariton, a'r bas, gan greu harmonïau cryfion. Ymhlith y pedwarawdau enwocaf mae'r Blackwood Brothers (ers 1934), yr Oak Ridge Boys (ers 1947), y Statesmen Quartet (1948–2001), y Jordanaires (1948–2013), y Statler Brothers (1955–2002), a'r Gaither Vocal Band (ers 1981). Yn ogystal, mae nifer o grwpiau cymysg a chantorion a cherddorion unigol yn canu efengyl y de, gan gynnwys Vestal Goodman (1929–2003) a'r soprano Sandi Patty (g. 1956). Perfformir y gerddoriaeth hon mewn eglwysi, cyngherddau, ffeiriau, a gwyliau cerddorol.
Wrth ddatblygu yn ystod hanner cyntaf yr 20g, tynnodd ar arddulliau cerddorol eraill, gan gynnwys y felan, canu gwlad, a chanu'r Tir Glas. Yn ei thro, câi efengyl y de ddylanwad ar fathau eraill o gerddoriaeth yn yr Unol Daleithiau, yn enwedig canu gwlad a cherddoriaeth Gristnogol gyfoes.