Math o gerddoriaeth roc yw metel trwm. Gyda gwreiddiau mewn roc y felan, roc seicedelig a roc asid, datblygodd bandiau metel trwm sain trwchus, mawr, wedi'i nodweddu gan ystumiant (Saesneg: distortion), unawdau gitâr estynedig, curiadau grymus, a sain uchel. Weithiau mae'r geiriau a'r perfformiadau'n gysylltiedig ag ymddygiad ymosodol a 'machismo'.