Ceugrwm

Chwith: siâp amgrwm lens cydgyfeirio golau
Dde: siâp ceugrwm lens dargyfeirio.

Mewn mathemateg, siap, amlinell neu wyneb sy'n crymu tuag i mewn, yw ceugrwm (neu 'ceugrwn'; Saesneg concave) e.e. amlinell fewnol cylch pan edrychir arno o du mewn i'r cylch. Ei wrthwyneb yw amgrwm.

Yma, ystyr 'cau' yw 'gwacter', neu le gwag a daw ail ran y gair o 'crwn'; felly ffurf gwag, crwn yw tarddiad y gair cyfansawdd yma. Cyhoeddwyd y defnydd cyntaf o'r gair yng Ngeiriadur Saesneg-Cymraeg John Walters yn 1772.

Fe'i defnyddir yn aml gyda lens gwydr neu blastig tryloyw.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne