Charles Cardell

Charles Cardell
Ganwyd1892 Edit this on Wikidata
Dwyrain Sussex Edit this on Wikidata
Bu farw1977 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata

Wicaid o Loegr a ddechreuodd draddodiad Wica ei hunan oedd Charles Cardell (1892–1977). Roedd ei draddodiad yn wahanol i'r hyn a ymarferwyd gan Gerald Gardner, tad Wica. Seiliwyd traddodiad Cardell ar y Duw Corniog; Atho oedd enw a roddwyd ar y duw hwn ganddo, a gweithiodd Cardell gyda chwfen. Roedd y Cwfen yn cwrdd ar dir ei ystâd yn Surrey fel arfer. Mae traddodiad Cardell yn dal i fodoli drwy Gwfen Atho Raymond Howard. Cardell hefyd oedd y person i fathu'r term Saesneg "Wicca", gan gyfeirio at ei ddilynwyr fel "Wiccens" ac nid y ffurf gyffredin o "Wiccans" (Wiciaid).[1]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-10-20. Cyrchwyd 2010-01-06.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne