Charles I, brenin Lloegr a'r Alban | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 19 Tachwedd 1600 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() Palas Dunfermline, Dunfermline ![]() |
Bu farw | 30 Ionawr 1649 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() Llundain ![]() |
Swydd | teyrn Lloegr, teyrn yr Alban, Dug Iorc, teyrn Iwerddon ![]() |
Dydd gŵyl | 30 Ionawr ![]() |
Tad | Iago VI yr Alban a I Lloegr ![]() |
Mam | Ann o Ddenmarc ![]() |
Priod | Henrietta Maria ![]() |
Plant | Siarl II, Mary Henrietta, Iago II & VII, y Dywysoges Elizabeth o Loegr, Y Dywysoges Anne o Loegr, Henry Stuart, Dug Caerloyw, Henrietta o Loegr, Charles James Stuart, Catherine Stuart ![]() |
Llinach | y Stiwartiaid ![]() |
llofnod | |
![]() |
Charles Stuart, Brenin Siarl I (19 Tachwedd 1600 - 30 Ionawr 1649) oedd Tywysog Cymru o 1616 hyd 1625, ac wedyn brenin Lloegr, yr Alban ac Iwerddon o 27 Mawrth 1625 tan ei ddienyddiad yn sgil Rhyfel Cartref Lloegr. Roedd ei deyrnasiad yn gyfnod o frwydro am rym rhwng y brenin a'r senedd. Yn bleidiwr brwd dros hawl ddwyfol brenhinoedd, gweithredai Siarl i gryfháu ei rymoedd ei hun, gan reoli heb y Senedd am gyfnod helaeth o'i deyrnasiad.