Charlotte Greenwood | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Frances Charlotte Greenwood ![]() 25 Mehefin 1890 ![]() Philadelphia ![]() |
Bu farw | 28 Rhagfyr 1977, 28 Rhagfyr 1978 ![]() Los Angeles ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Galwedigaeth | dawnsiwr, actor llwyfan, actor ffilm ![]() |
Tad | Frank Greenwood ![]() |
Mam | Annabelle Higgins ![]() |
Priod | Cyril Ring, Martin Joseph Broons ![]() |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood ![]() |
Actores, dawnsiwr a chantores o'r Unol Daleithiau oedd Charlotte Greenwood (25 Mehefin 1890 - 28 Rhagfyr 1977). Dechreuodd ei gyrfa yn 1913 yn y ddrama lwyfan The Tik-Tok Man of Oz, ac aeth ymlaen i serennu mewn nifer o ddramâu llwyfan, ffilmiau a rhaglenni radio llwyddiannus. Mae Greenwood yn cael ei chofio orau am ei rolau yn y ffilm So Long Letty o 1929 ac addasiad ffilm 1955 o Oklahoma! gan Rodgers a Hammerstein. Roedd hi'n eitha tal; tua 6 troedfedd ac yn fwyaf adnabyddus am ei choesau hir a'i chiciau uchel. Enillodd y ganmoliaeth unigryw o fod, yn ei geiriau hi, yr unig fenyw yn y byd a allai gicio jiráff yn ei lygad.[1]
Ganwyd hi yn Philadelphia yn 1890 a bu farw yn Los Angeles yn 1977. Roedd hi'n blentyn i Frank Greenwood ac Annabelle Higgins. Priododd hi Cyril Ring a wedyn Martin Joseph Broons.[2][3][4][5][6]