Cheryl Cole | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Cheryl Ann Tweedy ![]() 30 Mehefin 1983 ![]() Newcastle upon Tyne ![]() |
Man preswyl | Walker, Heaton, Woking ![]() |
Label recordio | Fascination Records, Polydor Records ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cyflwynydd teledu, model, actor, diddanwr ![]() |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, pop dawns, cyfoes R&B ![]() |
Math o lais | mezzo-soprano ![]() |
Taldra | 1.6 metr ![]() |
Priod | Ashley Cole, Jean-Bernard Fernandez-Versini ![]() |
Partner | Liam Payne ![]() |
Gwefan | https://www.cherylofficial.com/ ![]() |
Cantores, cyfansoddwraig, dawnswraig, awdures, cynllunydd ffasiwn a phersonoliaeth teledu ydy Cheryl Ann Tweedy (ganed 30 Mehefin 1983). Daeth yn enwog yn ystod y 2000au wedi iddi ddod yn aelod o'r band Girls Aloud trwy'r rhaglen deledu realiti Popstars: The Rivals ar ITV. Daeth y band yn un o'r grwpiau teledu realiti prin i gael llwyddiant hir-dymor, gan ennill ffortiwn o £25 miliwn erbyn mis Mai 2009. Gyda Girls Aloud, cafodd Cheryl 20 sengl a aeth i'r deg uchaf yn y siart (gan gynnwys pedwar rhif un), dau albwm a aeth i rif un, pedwar enwebiad am Wobr BRIT, a achan ennill BRIT am y sengl orau yn 2009 gyda "The Promise".
Yn 2008, daeth Cheryl yn feirniad ar y sioe deledu realiti "The X Factor" yn y Deyrnas Unedig. Ystyryr Cheryl yn eicon ffasiwn, gan ymddangos ar gloriau Vogue ac Elle.