Chess | |
![]() | |
Clawr yr albwm | |
---|---|
Cerddoriaeth | Björn Ulvaeus Benny Andersson |
Geiriau | Tim Rice |
Llyfr | Richard Nelson |
Cynhyrchiad | 1984 taith gyngherddol Ewropeaidd 1986 West End 1988 Broadway 1990 Taith yr Unol Daleithiau 1990 Sydney 1994 Cyngerdd Swedaidd 1995 Los Angeles 1997 Melbourne 2001 Taith Denmarc 2002 Stockholm 2003 Cyngerdd Broadway concert 2007 Los Angeles 2008 Cyngerdd Llundain |
Sioe gerdd 1984 ydy Chess, gyda geiriau a ysgrifennwyd gan Tim Rice a'r alawon gan Björn Ulvaeus a Benny Andersson, a arferai fod yn y band ABBA. Sonia'r sioe am driongl rhamantaidd rhwng dau chwaraewr mewn pencampwriaeth gwyddbwyll, a dynes sy'n reolwraig ar un ohonynt ond sy'n cwympo mewn cariad gyda'r llall. Er nad oess y prif gymeriadau fod adlewyrchu unrhyw unigolion penodol, mae personoliaethau'r cymeriadau'n debyg i'r chwaraewyr gwyddbwyll Viktor Korchnoi a Bobby Fischer yn ôl rhai pobl.[1]
Yn debyg i Jesus Christ Superstar ac Evita, recrodiwyd yr albwm Chess ym 1984, a rhyddhawyd nifer o senglau llwyddiannus. Agorodd y fersiwn theatraidd o Chess am y tro cyntaf yn West End Llundain ym 1984 a bu'n perfformio am dair blynedd. Gwelwyd cynhyrchiad tra wahanol o'r sioe ar Broadway ym 1988, ond derbyniodd feirniadaethau negyddol a methodd a denu cynulleidfaoedd mawrion. Er gwaethaf y methiant hwn yn yr Unol Daleithiau, ceir cynyrchiadau newydd o'r sioe yn rheolaidd, gyda nifer ohonynt yn ceisio cyfuno elfennau o'r sioeau yn Llundain a Broadway.