Chicago | |
Poster Chicago o gynhyrchiad y West End | |
---|---|
Cerddoriaeth | John Kander |
Geiriau | Fred Ebb |
Llyfr | Fred Ebb Bob Fosse |
Seiliedig ar | Yn seiliedig ar y ddrama Chicago gan Maurine Dallas Watkins |
Cynhyrchiad | 1975 Broadway 1978 Buenos Aires 1979 West End 1981 Awstralia 1981 Vienna 1996 Broadway 1997 West End 1998 Vienna 1999 Madrid 1999 Utrecht 2002 Gwlad Pwyl 2005 Taith yr Unol Daleithiau 2005 Buenos Aires 2006 Taith y DU 2006 Dubai 2007 Tokyo 2008 Seoul 2009 Yr Iseldiroedd 2009 Taith Awstralaidd 2009 Taith y DU |
Gwobrau | Gwobr Tony am yr Adfywiad Gorau o Sioe Gerdd |
Sioe gerdd gan Kander ac Ebb ydy Chicago, sydd wedi ei lleoli yn ninas Chicago. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan John Kander a'r geiriau gan Fred Ebb yn seiliedig ar lyfr gan Ebb a Bob Fosse. Mae'r stori yn dychanu anonestrwydd y system gyfreithiol a'r cysyniad o "droseddwr enwog". Seiliwyd y sioe gerdd ar ddrama 1926 o'r un enw gan y newyddiadurwr Maurine Dallas Watkins am droseddau go iawn yr oedd hi wedi adrodd amdanynt.
Agorodd y sioe wreiddiol ar Broadway ar 3 Mehefin 1975 yn Theatr 46th Street Theatre a bu yno am gyfanswm o 936 o berfformiadau. Coreograffodd Bob Fossey cynhyrchiad gwreiddiol, a chysylltir ei arddull ef â'r sioe. Erbyn 15 Tachwedd 2008 roedd y sioe wedi cael ei pherfformio dros 5,000 o weithiau. Cafodd y ffilm adfywiad yn sgîl cynhyrchiad yn West End Llundain a sawl thaith a chynhyrchiad rhyngwladol. Rhyddhawyd fersiwn ffilm yn 2002 Chicago.