![]() | |
Math | aflonyddu rhywiol ![]() |
---|---|
Gwladwriaeth | Japan ![]() |
Aflonyddu corfforol, rhywiol ar gorff person yw Chikan (Japaneeg: 痴漢, チカン, neu ちかん) a gyflawnir yn erbyn ewyllys y dioddefwr. Defnyddir y term yn aml i ddisgrifio dynion sy'n manteisio ar drenau gorlawn ar y systemau tramwy cyhoeddus yn Japan, lle mae'r dioddefwr (merch ysgol fel arfer) yn methu symud oherwydd yr holl bobl o'i chwmpas, nac yn medru adnabod y person sy'n cyflawni'r weithred. Oherwydd fod gan bob rhanbarth ei deddfau (neu ddiffyg deddfau) ei hun, ac oherwydd diwylliant o droi llygad dall, mae chikanu'n broblem fawr yn ninasoedd Japan.[1][2] Gall dynion hefyd fod yn ddioddefwyr.[3] Nid Japan yw'r unig wlad lle ceir cyffwrdd anghyfreithiol, ond mae'n digwydd yma'n fwy nag unrhyw wlad arall yn ôl yr ystadegau.
Er mai merched ysgol ar drenau gorlawn yn Japan yw targedau amlaf chikan, gall y drwgweithredwr hefyd fanteisio ar bobl mewn sefyllfaoedd eraill ee mewn llefydd parcio beiciau, lle bydd y gweithredwr yn aros nes bod menyw yn plygu drosodd, yn datgloi clo eu beic, ac yna'n eu cyffwrdd o'r tu ôl. Mae Chikan yn aml yn ymddangos mewn pornograffi Japaneaidd, ynghyd â drwgweithredowedd a themâu eraill nad ydynt yn gydsyniol.[4]
Erbyn y 2020au roedd cwmnïau rheilffordd wedi dynodi ceir teithwyr i fenywod yn unig, fel rhan o'r ymdrech i frwydro yn erbyn chikan.[5][6][7] Dywedodd Asiantaeth Genedlaethol yr Heddlu yn Japan fod rhwng 2,000 i 3,000 o bobl yn cael eu harestio'n flynyddol am Chikanu.[8]