Math | ardal o Lundain |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Hounslow, Chiswick Urban District, Municipal Borough of Brentford and Chiswick |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 5.72 km² |
Gerllaw | Afon Tafwys |
Yn ffinio gyda | Acton, Llundain |
Cyfesurynnau | 51.4925°N 0.2633°W |
Cod OS | TQ205785 |
Cod post | W4 |
Maestref fawr yw Chiswick wedi ei lleoli yng ngorllewin Llundain Fwyaf, 9.7 cilometr (6 milltir) i'r gorllewin o Charing Cross ar ystum Afon Tafwys. Mae'n ffurfio rhan o Fwrdeistref Llundain Hounslow. Yn hanesyddol roedd Chiswick yn blwyf hynafol yn hen sir Middlesex, gydag economi yn dibynnu ar amaethyddiaeth a pysgota. Yn ystod twf diwydiannol Llundain yn y 19eg a'r 20g tyfodd poblogaeth Chiswick a daeth yn fwrdeistref trefol gyda Brentford ym 1932 a dod yn rhan o Lundain Fawr ym 1965. Mae Caerdydd 202 km i ffwrdd o Chiswick ac mae Llundain yn 11.4 km. Y ddinas agosaf ydy Dinas Westminster sy'n 9 km i ffwrdd.