Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Christopher Froome |
Llysenw | Froomey |
Dyddiad geni | 20 Mai 1985 |
Taldra | 1.86 cm |
Pwysau | 70 kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Cyffredinol |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2007 2008–2009 2010– | |
Prif gampau | |
Cymal 7, Tour de France 2012 | |
Golygwyd ddiwethaf ar 10 Gorffennaf 2012 |
Seiclwr proffesiynol gyda Team Sky yw Christopher Froome CBE (ganed 20 Mai 1985) yn Nairobi, Cenia. Er cael ei fagu yn Cenia a De Affrica, mae Froome yn rasio ar drwydded Prydeinig ers 2008. Mae'n gymwys i rasio o dan drwydded Prydeinig oherwydd fod ei dad a'i nain a'i daid wedi eu geni ym Mhrydain Fawr[1].
Yn 2007 trodd Froome yn broffesiynol gyda Team Konica Minolta, ond symudodd i Ewrop er mwyn ceisio gwella ei yrfa gyda Team Barloworld ond yn 2010 cafodd ei arwyddo gan Team Sky er mwyn bod yn un o prif reidwyr domestique Bradley Wiggins.
Gorffennodd yn ail yn y Vuelta a España yn 2011 a hefyd yn ail tu ôl i Wiggins yn y Tour de France yn 2012 yn ogystal â chipio medal efydd yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 yn y Ras yn erbyn y Cloc[2]. Yn 2013 llwyddodd i ennill y Tour of Oman, Critérium International, Tour de Romandie a'r Critérium du Dauphiné cyn ennill y Tour de France[3].
Yn 2014, bu rhaid iddo ymddeol o'r Tour de France oherwydd anaf[4] ond llwyddodd i orffen y tymor gydag ail safle yn y Vuelta a España[5].
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)