Chris Martin

Chris Martin
Ganwyd2 Mawrth 1977 Edit this on Wikidata
Caerwysg Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles, Efrog Newydd, El Peñéu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Addysggradd baglor Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcerddor, cyfansoddwr caneuon, canwr, gitarydd, cynhyrchydd recordiau Edit this on Wikidata
Arddullroc amgen Edit this on Wikidata
Math o laisbariton, baritenor Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadThom Yorke Edit this on Wikidata
TadAnthony John Martin Edit this on Wikidata
MamAlison Fleming Edit this on Wikidata
PriodGwyneth Paltrow Edit this on Wikidata
PartnerDakota Johnson, Annabelle Wallis, Jennifer Lawrence Edit this on Wikidata
PlantApple Martin, Moses Martin Edit this on Wikidata
PerthnasauMuriel Pattison, David Martin, Elisabeth Jane Martin, William Willett Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.coldplay.com Edit this on Wikidata
llofnod

Mae Christopher Anthony John Martin (ganwyd 2 Mawrth 1977), neu Chris Martin, yn ganwr, cyfansoddwr a cherddor Saesneg sy'n brif aelod o'r band byd eang Saesneg, Coldplay. Cafodd Chris Martin ei eni yng Nghaerwysg, Dyfnaint. Roedd Chris Martin yn fyrfyriwr ym Mhrifysgol Coleg Llundain lle wnaeth sefydlu grŵp roc yn 1996 o'r enw 'Starfish' gyda Jonny Buckland, Guy Berryman a Will Champion. Fe wnaeth enw'r grŵp yma newid i Coldplay erbyn 1998.

Chris Martin yn 2017 yn perfformio yn Hamburg, yr Almaen
Y band 'Coldplay' yn perfformio yn Hamburg yn 2017

Fe wnaeth Chris Martin, yn ogystal ag aelodau eraill Coldplay, gael cydnabyddiaeth byd-eang yn dilyn rhyddhau eu sengl 'Yellow' yn 2000 a wnaeth hefyd arwain at eu enwebiad cyntaf fel band am y can roc orau (Gwobr Grammy). Mae'r band hefyd wedi ennill Gwobr Grammy am eu halbymau 'A Rush of Blood to the Head' a 'Viva la Vida'. Gwerthodd Coldplay dros 100 miliwn o recordiau ac maen nhw'n cael eu hadnabod fel un o'r bandiau mwyaf adnabyddus yn y Deyrnas Unedig yn dilyn ennill llu o wobrwyau. Fe ymddangosodd Chris Martin yn rhestr 'Darbett's' yn 2017 fel un o'r dynion mwyaf dylanwadol yn y DU.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne