Christine Jorgensen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | George William Jorgensen jr. ![]() 30 Mai 1926 ![]() Y Bronx ![]() |
Bu farw | 3 Mai 1989 ![]() San Clemente ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, diddanwr, Llefarydd, ymgyrchydd, darlithydd, canwr ![]() |
llofnod | |
![]() |
Yr unigolyn enwog cyntaf i dderbyn llawdriniaeth ailgyfeirio rhyw (yn ei hachos hi, gwryw i fenyw) oedd Christine Jorgensen (ganwyd George William Jorgensen, Jr. 30 Mai, 1926 yn The Bronx, Dinas Efrog Newydd, UDA; bu farw 3 Mai, 1989).[1]
Ym 1950 teithiodd Jorgensen i Ddenmarc lle cafodd ei archwilio gan y Dr Christian Hamburger gyda'r nod o ddeiagnosio'i rhyw a rhoi triniaeth trawsrywiol. Yn dilyn llawdriniaeth i'w newid yn fenyw fiolegol, fe ddaeth Jorgensen dan sylw'r cyhoedd a chyfryngau Americanaidd, a dychwelodd i enwogrwydd yn yr Unol Daleithiau.
Am flynyddoedd darlithiodd Jorgensen ar ei phrofiad a hefyd ar drawsrywioldeb, yn enwedig ei statws fel ffenomen ar wahân i groeswisgo a chyfunrywioldeb. Ym 1967 cyhoeddwyd ei hunangofiant hi, Christine Jorgensen: A Personal Autobiography.