Christophe Agnolutto

Christophe Agnolutto
Ganwyd6 Rhagfyr 1969 Edit this on Wikidata
Soisy-sous-Montmorency Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auAG2R La Mondiale, Agritubel Edit this on Wikidata

Seiclwr proffesiynol o Ffrainc oedd Christophe Agnolutto (ganwyd 6 Rhagfyr 1969, Soisy-Sur-Montmorency, Paris).

Ei gampweithiau pennaf yw ennill cymal 7 yn Tour de France 2000 ar ôl reidio ar ei ben ei hun am 80 o'r 127 kilomedr o Tours i Limoges. Mewn steil tebyg, enillodd Tour de Suisse 1997 yn annisgwyl, pan na aeth yr enwogion yn y ras ar ei ôl pan dorrodd i ffwrdd o flaen y ras ar yr ail gymal, nid oedd unrhyw un yn gallu adennill yr amser a gollasont iddo yn y cymal hon a daliodd ymlaen i grys yr arweinydd hyd ddiwedd y ras.

Ymddeolodd Agnolutto ar ddiwedd tymor rasio 2006.[1]

  1. "Ymddeoliad Agnolutto". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-10-20. Cyrchwyd 2007-10-09.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne