![]() | |
Math | gornest, chwaraeon ![]() |
---|---|
![]() |
Term sy'n cyfeirio at unrhyw chwaraeon neu adloniant sy'n ymwneud â thrais yn erbyn anifeiliaid yw chwaraeon gwaed. Mae'n cynnwys hela ac ymladd ceiliogod ymysg eraill. Mae fel arfer yn ymwneud â thynnu gwaed, ac yn aml yn dod i ben gyda marwolaeth un anifail neu fwy.
Erbyn heddiw, yn dilyn lobïo, mae cyfyngiadau ar chwaraeon gwaed wedi cael eu gweithredu yn rhan helaeth o'r byd. Mae rhai chwaraeon gwaed yn parhau i fod yn gyfreithlon, ond dim ond dan amodau penodol ac mewn lleoliadau penodol (er enghraifft ymladd teirw ac ymladd ceiliogod) ond mae wedi lleihau mewn poblogrwydd mewn mannau eraill.[1][2] Mae'r rhai sydd o blaid chwaraeon gwaed yn aml yn dadlau eu bod yn draddodiadol o fewn eu diwylliant.[3] Nid yw rhai sy'n ymwneud â ymladd teirw er enghraifft, yn ei gysidro i fod yn chwaraeon, ond yn weithgaredd diwylliannol.