Enghraifft o: | math o chwarren, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | major salivary gland, endid anatomegol arbennig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r chwarren isfandiblaidd yn chwarren boer o faint amrywiol (7 i 15 g) sydd wedi'i leoli yn y blwch isfandiblaidd, o dan y mandibl para-ganol. Maent yn cyfrannu rhyw 60-67% o boer sydd heb ei sbarduno. Wrth i'r geg dechrau sbarduno poer, er enghraifft trwy gnoi, mae eu cyfraniad yn gostwng yn gymesur wrth i'r secretiadau parotid godi i 50%[1].
Dwythell ysgarthol y chwarren yw camlas Wharton sy'n draenio yn isdafodol ar ddwy ochr y tafod.
Mae'r chwarren yn derbyn ei gyflenwad gwaed o'r rhydwelïau'r wyneb a'r tafod. Cyflenwir y chwarren gan rydwelïau isdafodol ac isenol ac yn cael ei ddiferu gan wythiennau cyffredin y geg a gwythiennau cyffredin y tafod.