Enghraifft o: | IPCC report |
---|---|
Cyhoeddwr | Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 9 Awst 2021, 20 Mawrth 2023 |
Rhagflaenwyd gan | Pumed Adroddiad Asesiad yr IPCC |
Prif bwnc | newid hinsawdd |
Gwefan | https://www.ipcc.ch/assessment-report/ar6/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyhoeddwyd y Chweched Adroddiad-Asesu (AR6) gan Banel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y Newid Hinsawdd (IPCC); dyma'r 6ed mewn cyfres o adroddiadau sy'n asesu gwybodaeth wyddonol, dechnegol ac economaidd-gymdeithasol ynghylch newid hinsawdd. Mae'n ffrwyth llafur tri Gweithgor (WGI, II, a III) ac yn seiliedig ar y pynciau canlynol: Sail y Gwyddorau Ffisegol (WGI); Effeithiau, Addasiad a Bregusrwydd (WGII); Lliniaru Newid Hinsawdd (WGIII). O’r rhain, cyhoeddwyd yr astudiaeth gyntaf yn 2021, yr ail adroddiad yn Chwefror 2022, a’r trydydd yn Ebrill 2022. Disgwylir i’r adroddiad synthesis terfynol ddod i ben erbyn dechrau 2023.
Cyhoeddodd y cyntaf o’r tri gweithgor ei adroddiad ar 9 Awst 2021, Newid Hinsawdd 2021: Sail y Gwyddorau Ffisegol. Cyfrannodd cyfanswm o 234 o wyddonwyr o dros 66 o wledydd at adroddiad y gweithgor cyntaf (WGI). Adeiladodd yr awduron ar fwy na 14,000 o bapurau gwyddonol i gynhyrchu'r adroddiad 3,949 tudalen, ac a gafodd ei gymeradwyo wedyn gan 195 o lywodraethau. Cafodd y ddogfen Crynodeb i Wneuthurwyr Polisi (SPM) ei drafftio gan wyddonwyr a chytunodd y 195 o lywodraethau yn yr IPCC i wneud hynny fesul llinell yn ystod y pum diwrnod yn arwain at 6 Awst 2021.
Yn ôl adroddiad WGI (sef, Working Group 1),gellir osgoi cynhesu o rhwng 1.5 °C (2.7 °F) a 2.0 °C (3.6 °F) os gwneir toriadau enfawr ac uniongyrchol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mewn stori tudalen flaen, disgrifiodd The Guardian yr adroddiad fel “ei rybudd cryfaf eto” o “newidiadau hinsawdd anochel ac anwrthdroadwy enfawr”, thema a adleisiwyd gan lawer o bapurau newydd ac arweinwyr gwleidyddol ac ymgyrchwyr hinsawdd ledled y byd.