Chwedloniaeth Iwerddon

Mae chwedloniaeth Iwerddon yn cyfeirio at hanesion Gwyddelig sydd wedi'u cadw yn y traddodiad llafar, ac yn ddiweddarach yn llawysgrifau'r Eglwys Geltaidd gynnar. Mae'r straeon a'r themâu wedi dal i gael eu datblygu dros amser yn llên gwerin Iwerddon, ond ar y cyfan mae'r prif themâu a chymeriadau wedi aros yn gyson.[1]

Gyda dyfodiad Cristnogaeth i Iwerddon, cadwyd llawer o'r chwedlau yma mewn llawysgrifau gan ffurfio llenyddiaeth Wyddeleg ganoloesol. Er bod y dylanwad Cristnogol i'w weld yn y llawysgrifau hefyd, mae'r casgliad hwn yn nes at y gwreiddiol ac yn fwy o faint na'r un casgliad yng nghanghennau eraill chwedloniaeth Geltaidd. Er bod llawer o'r llawysgrifau wedi hen ddiflannu, a bod llawer mwy o ddeunydd heb ei gofnodi'n ysgrifenedig yn y lle cyntaf mae'n debyg, mae digon ar ôl i allu adnabod cylchoedd penodol, er bod chwedlau hefyd nad ydyn nhw'n cwympo'n daclus yn un o'r cylchoedd. Y pedwar prif gylch yw'r Cylch Mytholegol, Cylch yr Ulaid, Cylch Fionn a'r Cylch Hanesyddol.[2]

  1. Nagy, Joseph Falaky (1985). The Wisdom of the Outlaw: The Boyhood Deeds of Finn in Gaelic Narrative Tradition. Berkeley and Los Angeles: University of California Press.
  2. Llên Cymru. Gwasg Prifysgol Cymru. 1965. tt. 52–56.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne