Chwilio a dinistrio

Chwilio a dinistrio
Enghraifft o:athrawiaeth Edit this on Wikidata
Mathstrategaeth filwrol, gwrthchwyldroadaeth Edit this on Wikidata
Milwyr Americanaidd yn chwilio cartrefi Fietnamaidd am gerilas y Fiet Cong.

Strategaeth filwrol a ddefnyddiwyd gan yr Unol Daleithiau yn ystod Rhyfel Fietnam oedd chwilio a dinistrio (Saesneg: search and destroy neu S&D) a oedd yn sail i ymgyrch Byddin yr Unol Daleithiau yn Ne Fietnam. Danfonwyd milwyr Americanaidd i diriogaeth y gelyn gan ddefnyddio hofrennyddion ac byddent yn chwilio am luoedd comiwnyddol y Fiet Cong neu Ogledd Fietnam, lladd y gelyn, ac yna'n encilio'n syth.

Mesurwyd llwyddiant y strategaeth trwy cyfrif cyrff, hynny yw y nifer o'r gelyn a laddwyd. Yr amcan oedd i beri colledigion enfawr i'r Fiet Cong a byddin Gogledd Fietnam yn raddol trwy athreuliad, nes iddynt ildio.[1] Er i'r Americanwyr lladd nifer o luoedd comiwnyddol, ni chafodd hyn effaith ar eu gallu i ymladd. Lladdwyd 220,000 ohonynt rhwng 1965 a 1967, ond bu 200,000 o ddynion y flwyddyn yn cyrraedd yr oed consgripsiwn yng Ngogledd Fietnam, ac yr oedd y Fiet Cong yn recriwtio mwy a mwy o bobl o gefn gwlad y De.[2]

Nid oedd tactegau confensiynol yr Americanwyr yn addas wrth ymladd rhyfel herwfilwrol mewn jyngloedd Fietnam. Er eu pwyslais ar ennill rhagoriaeth o ran mudoledd, dechreuwyd tua 90% o'r holl ysgarmesau a brwydrau gan luoedd comiwnyddol, nid lluoedd yr Unol Daleithiau. Oherwydd diffyg ymdrech gan yr Americanwyr a lluoedd De Fietnam i ddiogelu a chadw tiriogaeth ar ôl brwydrau, bu'r Fiet Cong yn aml yn dychwelyd yn syth i ardaloedd wedi i'r Americanwyr gadael.[2]

Roedd effaith chwilio a dinistrio ar gymdeithas De Fietnam yn ddinistriol ac yn wrth-gynhyrchiol i amcan yr Americanwyr o ennill "calonnau a meddyliau'r" boblogaeth. Difrodwyd pentrefi a ffyrdd gan rym tanio a chliriwyd coedwigoedd a thir amaethyddol gan ddiddeilyddion. Lladdwyd hanner miliwn o sifiliaid, ac anafwyd un miliwn. Dadleolwyd eraill o'r cefn gwlad a bu raid iddynt symud i'r dinasoedd gorlawn. Oherwydd y difrod i gnydau a bywyd amaethyddol, bu raid i Dde Fietnam mewnforio reis ym 1967. Dioddef wnaeth enw llywodraeth De Fietnam yn llygaid ei phobl.[2]

Ynghyd â'r rhyfel awyrennol yn erbyn Gogledd Fietnam trwy Ymgyrch Rolling Thunder, chwilio a dinistrio oedd yn ffurfio strategaeth ddeuddaint yr Americanwyr yn Fietnam.[3]

  1. Hess (2009), t. 85.
  2. 2.0 2.1 2.2 Hess (2009), t. 90.
  3. Hess (2009), t. 84.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne