Enghraifft o: | political group of the European Parliament |
---|---|
Idioleg | sosialaeth ddemocrataidd, euroscepticism |
Dechrau/Sefydlu | 6 Ionawr 1995 |
Rhagflaenwyd gan | European United Left |
Yn cynnwys | Party of the European Left, Now the People! |
Gwefan | https://left.eu |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp gwleidyddol adain chwith yw'r Chwith Unedig Ewropeaidd/Chwith Gwyrdd Nordig (Ffrangeg: Gauche unitaire européenne/Gauche verte nordique neu GUE/GVN; Saesneg: European United Left–Nordic Green Left neu EUL/NGL) sydd â seddi yn Senedd Ewrop er 1995.
Mae'r grŵp yn cyfuno pleidiau adain chwith o dueddiadau sosialaidd, gwrth-gyfalafol, eco-sosialaidd, comiwnyddol neu ôl-gomiwnyddol. Mae'n cynnwys pleidiau sy'n perthyn i Blaid y Chwith Ewropeaidd (Parti de la gauche européenne/Party of the European Left) a hefyd Cynghrair y Chwith Gwyrdd Nordig (l'Alliance de la Gauche verte nordique/Nordic Green Left Alliance), ynghyd â phleidiau eraill heb berthyn i grŵp arall.
Mae gan y ChUE/ChGN 36 Aelod Senedd Ewrop a'r arweinydd ers 2009 yw Lothar Bisky.