Chwyldro Tiwnisia

Chwyldro Tiwnisia
Enghraifft o:gwrthwynebiad sifil Edit this on Wikidata
Dyddiad24 Rhagfyr 2010 Edit this on Wikidata
Lladdwyd338 Edit this on Wikidata
Rhan oY Gwanwyn Arabaidd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd18 Rhagfyr 2010 Edit this on Wikidata
Daeth i ben14 Ionawr 2011 Edit this on Wikidata
LleoliadTiwnisia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Un o arwyddion y 'Chwyldro Jasmin'
Tiwnis: un o symbolau régime Ben Ali

Dechreuodd yr hyn a elwir yn Chwyldro Jasmin neu'n Intifada Tiwnisia (intifada: "gwrthryfel neu chwyldro poblogaidd") neu Gwrthryfel Sidi Bouzid ar 17 Rhagfyr 2010 yn ninas Sidi Bouzid yng nghanolbarth Tiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun i farwolaeth gan gychwyn cyfres o brotestiadau gan y werin. Parodd y Chwyldro 28 diwrnod. Arweiniodd yn y pen draw at ddemocrateiddio'r wlad yn drylwyr ac at etholiadau rhydd a democrataidd. Mae hyn yn awgrymu mai dyma'r unig fudiad llwyddiannus yn y Gwanwyn Arabaidd.

Erbyn dechrau Ionawr 2011 roedd y gwrthdystiadau yn erbyn llywodraeth yr Arlywydd Zine el-Abidine Ben Ali wedi ymledu i sawl rhan o'r wlad, yn cynnwys y brifddinas Tiwnis. Saethwyd nifer o brotestwyr gan yr heddlu (rhwng 78 a 165 o bobl gan dibynnu ar y ffynhonnell). Gwrthryfel werin dros gyfiawnder cymdeithasol, democratiaeth a hawliau dynol yw'r "Chwyldro Jasmin". Ar 14 Ionawr 2011 gorfodwyd yr arlywydd unbenaethol Zine Ben Ali i adael y wlad ac roedd y Fyddin ar y strydoedd i gadw trefn, gweithred a groesawyd gan y mwyafrif a gredai byddai'r milwyr yn eu hamddiffyn rhag yr elfennau treisgar yn yr heddlu. Ar 17 Ionawr cyhoeddwyd llywodraeth undeb cenedlaethol i baratoi at etholiad rhydd i'w gynnal cyn diwedd Mawrth. Ond roedd llawer o bobl yn anfodlon iawn am fod y llywodraeth newydd yn cynnwys sawl aelod o'r hen sefydliad ac aelodau o'r RCD, plaid Ben Ali, yn cynnwys y cyn brif weinidog Mohamed Ghannouchi a pharhaodd y protestiadau. Ar hyn o bryd mae'r sefyllfa'n ansefydlog o hyd gyda'r Fyddin yn chwarae rhan amlwg a chyrffiw nos yn weithredol.[1]

  1. "Timeline: Tunisia's civil unrest", Al-Jazeera, 23 Ionawr 2011.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne