Chwyldro Diwylliannol

Chwyldro Diwylliannol
Enghraifft o:chwyldro, digwyddiad hanesyddol, cultural revolution, culture change Edit this on Wikidata
CrëwrMao Zedong, Jiang Qing Edit this on Wikidata
Dechreuwyd16 Mai 1966 Edit this on Wikidata
Daeth i ben6 Hydref 1976 Edit this on Wikidata
GwladwriaethGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y Chwyldro Diwylliannol, neu yn llawn y Chwyldro Diwylliannol Mawr Proletaraidd (Wúchǎn Jiējí Wénhuà Dà Gémìng) oedd yr enw a roddwyd i ymgiprys am rym o fewn Plaid Gomiwnyddol Tsieina a arweiniodd at newidiadau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol enfawr.

Dechreuwyd yr ymgyrch gan Mao Zedong, Cadeirydd Plaid Gomiwnyddol Tsieina, ar 16 Mai, 1966, fel ymgyrch i gael gwared o elfennau bergeisiol rhyddfrydol o Tsieina ac i barhau'r chwyldro. Cred llawer o ysgolheigion ei fod yn ymateb i fethiant y Naid Fawr Ymlaen, oedd wedi cryfhau safle cystadleuwyr Mao yn y blaid, Liu Shaoqi a Deng Xiaoping, ar ei draul ef. Lledaenodd trwy'r wlad a datblygu'n ymgiprys am rym ar raddfa leol a chenedlaethol. Rhwng 1966 a 1968, defnyddiodd Mao a'i gefnogwyr y Gard Coch, milisia o bobl ieuanc, i gymeryd gafael ar holl beirianwaith y blaid a'r wladwriaeth. Cred rhai i hyd at hanner miliwn o bobl gael eu lladd.

Cyhoeddodd Mao fod y Chwyldro Diwylliannol drosodd yn 1969, ond defnyddir y term yn aml heddiw i gynnwys y cyfnod hyd 1976.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne