Ci

Ci
Ci Defaid Cymreig
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Canidae
Genws: Canis
Rhywogaeth: C. lupus
Isrywogaeth: C. l. familiaris
Enw trienwol
Canis lupus familiaris
(Linnaeus, 1758)

Fel arfer mae'r term ci yn cyfeirio at y 'ci dof', sef y Canis lupus familiaris (neu "Canis familiaris") sy'n isrywogaeth dof o'r blaidd a ddifodwyd bellach, ac a fu unwaith yn byw rhywle yn Ewrasia tua 40,000 o flynyddoedd yn ôl.[1][2] Drwy fridio dethol y ci gwyllt dros filoedd o flynyddoedd cyrhaeddwyd ei ffurf amrywiol, presennol; bridiwyd ef am wahanol resymau gan gynnwys ei synhwyrau (arogli, gweld a chlywed) ei gyflymder, ei liw a'i siâp. Amcangyfrifir fod tua 400 miliwn o gŵn yn y byd. Yr enw torfol ydy 'haid o gŵn'.

Mae'r ci wedi datblygu'n gannoedd o fridiau gwahanol o ran maint, siâp a lliw, a cheir sawl brid a ystyrir yn Gymreig gan gynnwys y corgi, y ci defaid Cymreig, y ci hela Cymreig, y daeargi Cymreig, y daeargi Sealyham a'r Sbaengi hela Cymreig. Cyfeirir yn aml at gŵn mewn hen lawysgrifau Cymraeg ac yn y Cyfreithiau Cymreig a chofnodwyd y gair am y tro cyntaf yn Llyfr Du Caerfyrddin yn y 13g: Rhydderch Hael a'i gŵn cyfrwys.[3] ac yn Llyvyr Agkyr Llanddewivrevi (1346) rhoddir y cyngor: Na roddwch chwi y bara bendigedig i'r cŵn.[4] Mae'r term 'ci' yn cwmpasu'r ffurf gwyllt a'r ffurf anwes a chaiff hefyd ei ddefnyddio i ddisgrifio anifeiliaid gwyllt o isrywogaethau tebyg. Fe'i defnyddir yn ffigyrol hefyd am arwr ac ymladdwr: 'aergi' neu 'gatgi', ond yn y Beibl fe'i defnyddir am beth ffiaidd neu ddirmygus e.e. oherwydd i'r Iddew, creadur ysglyfaethus ac aflan oedd ci ac fe'i ceir ar lafar am buteiniwr ac mewn geiriau fel bolgi, cachgi, celwyddgi, chwiwgi, ieithgi ayb. Ar lafar gwlad, defnyddir y gair "ci" am y gwryw a "gast" am y fenyw.[5]

Y ci yw'r anifail hynaf i gael ei ddofi gan ddyn ac mae wedi treulio dros 33,000 o flynyddoedd yn ei gwmni,[6] mae ymddygiad ci a dyn, felly wedi addasu a chlosio'n fwy nag unrhyw anifail arall, oddigerth, efallai, i'r gath e.e. mae wedi addasu i fwyta bwyd llawn starts yn ogystal â chig - sy'n ei wneud yn unigryw ymhlith disgynyddion y blaidd cigysol.[7]

Bridiwyd y ci yn gyntaf, mae'n debyg, i chwarae rôl o fewn yr helfa - i arogli'r ysglyfaeth, i glustfeinio am sŵn dieithr, i warchod praidd neu deulu, nes y daeth yn gwmni i'r person, y bugail, y milwr. Defnyddiwyd ef hefyd i dynnu car llusg yn y gorffennol ac yn yr oes fodern i arogli cyffuriau mewn maes awyr, mewn sioeau cŵn, ymrysonau cŵn defaid, neu i dywys person dall. Oherwydd hyn, ceir disgrifiadau teg ohono mewn sawl iaith. Yn Saesneg fe'i gelwir yn 'gyfaill gorau dyn'. Mewn rhannau eraill o'r byd, fel Tsieina a Fietnam, megir y ci am ei gig.[8][9]

Ar ôl cwymp Rhufain, roedd goroesiad pobl yn aml yn dod yn bwisicach na magu a hyfforddi cŵn. yn ystod y cyfnod hwn, daeth chwedlau o ddrygoini yn gŵn wedi'u gadel yn teithio mewn cnudoedd yn aml yn crwydro strydoedd a phentrefwyr ofnus.

Mae gan gŵn dri amrant. Mae'r trydydd caead a elwir yn bilen nictitating neu "haw" yn cadw'r llygad wedi'i iro a'i ddiogleu.

Y ci oedd y rhywogaeth gyntaf i gael ei dofi, gan helwyr-gasglwyr dros 15,000 o flynyddoedd yn ôl, cyn datblygiad amaethyddiaeth.[10]

  1. Wayne, Robert K. (1993). "Molecular evolution of the dog family". Trends in Genetics 9 (6): 218–224. doi:10.1016/0168-9525(93)90122-X. ISSN 0168-9525. PMID 8337763. https://archive.org/details/sim_trends-in-genetics_1993-06_9_6/page/218.
  2. Skoglund, P.; Ersmark, E.; Palkopoulou, E.; Dalén, L. (2015). "Ancient Wolf Genome Reveals an Early Divergence of Domestic Dog Ancestors and Admixture into High-Latitude Breeds". Current Biology. doi:10.1016/j.cub.2015.04.019.
  3. Y cofnod gwreiddiol yn Llyfr Du Caerfyrddin (C 5716) yw: Rac dyuod. Riderch hael. ae cvn kyfruys,
  4.  ci. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2021.
  5. "Dog". Dictionary.com.
  6. "DNA Dates Dog Domestication Back 33,000 Years". Discovery.com. Rhagfyr 2015.[dolen farw]
  7. Axelsson, E.; Ratnakumar, A.; Arendt, M. L.; Maqbool, K.; Webster, M. T.; Perloski, M.; Liberg, O.; Arnemo, J. M. et al. (2013). "The genomic signature of dog domestication reveals adaptation to a starch-rich diet". Nature 495 (7441): 360–364. Bibcode 2013Natur.495..360A. doi:10.1038/nature11837. PMID 23354050.
  8. Wingfield-Hayes, Rupert (29 Mehefin 2002). "China's taste for the exotic". BBC News.
  9. "Vietnam's dog meat tradition". BBC News. 31 Rhagfyr 2001.
  10. Wang & Tedford 2008, t. 1.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne