Enghraifft o: | brîd o gi |
---|---|
Math | ci |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ci defaid sy'n frodorol o Gymru yw'r Ci Defaid Cymreig a fridiwyd yn y gorffennol i warchod eu praidd rhag bleiddiaid yn ogystal â hel a didoli y defaid ac anifeiliaid eraill. Ceir disgrifiad o gi defaid yn chwedl Culhwch ac Olwen: gafaelgi blewog... yn fwy na cheffyl nawmlwydd.
Mae'r enw 'Ci Defaid Cymreig' bellach yn cyfeirio at un math o gi, ond ceir sawl math arall o gŵn defaid yng Nghymru gan gynnwys dau gi a oedd yn gyffredin iawn yng Nghanolbarth Cymru: y ci du a melyngoch, y ci mynydd Cymreig coch neu lwydlas a oedd yn gi enfawr, cryf. Ci defaid arall oedd y ci llwyd hirflew Cymreig a deithiodd i Batagonia (y Barboucho), ac a oedd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth gan y porthmyn i yrru gwartheg, defaid, moch, gwyddau o ffermydd Cymru i farchnadoedd y Gororau. O tua'r 1860au disodlwyd y Cŵn defaid Cymreig gan rai Albanaidd ac aethant yn brin.[1] Croesfridiwyd llawer ac nid oedd achrestri (neu gofrestr llinach) yn bod. Ffurfiwyd Cymdeithas Cŵn Defaid Cymraeig yn 1997 er mwyn unioni'r cam hwn a'u gwarchod. Yn wahanol i gi defaid gororau'r Alban, fodd bynnag, mae'r ci defaid Cymreig yn gweithio gyda'i gynffon i fyny a'i drwyn i lawr, ac mae'n cyfarth o'i liwt eu hun pan fo angen gyrru'r praidd yn ei flaen.[2]