![]() | |
Enghraifft o: | brîd o gi ![]() |
---|---|
Math | ci ![]() |
Màs | 3 cilogram, 4 cilogram ![]() |
![]() |
Ci arffed bach sy'n tarddu o Falta yn ôl traddodiad yw Ci Malta, Ci Melita neu Ddaeargi Melita.[1] Ci hynafol ydyw a sonir amdano mewn ffynonellau o ardal y Môr Canoldir sydd yn dyddio'n ôl i 300 CC.[2]
Mae ganddo gôt hir o flew sidanaidd, o liw gwyn., ac mae'n rhaid ei ysgrafellu yn feunyddiol i atal clymu. Mae'n tyfu i 25 cm ac yn pwyso rhyw 2 i 3 kg. Mae'n byw am fwy na 12 mlynedd.[2]