![]() | |
Enghraifft o: | brîd o gi ![]() |
---|---|
Màs | 5 cilogram, 5.4 cilogram ![]() |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
![]() |
Ci arffed sy'n tarddu o Tsieina yw Ci Pecin[1] neu'r Pecinî.[1]
Datblygodd y brîd hwn yn yr Hen Tsieina ac yn yr oes honno credir ei fod yn sanctaidd a chafodd ei gadw mewn palasau'r teulu ymerodorol. Daeth i'r Byd Gorllewinol gan luoedd Prydeinig a ysbeiliodd Palas Ymerodorol Beijing (ynghynt Pecin) ym 1860. Gelwir Ci Pecin yn "llewgi" am ei flew hir ond hefyd am ei natur annibynnol a dewr.[2]
Mae ganddo daldra o 15 i 23 cm (6 i 9 modfedd) ac yn pwyso tua 6.5 kg (14 o bwysau). Cafodd rhai Cŵn Pecin bychain iawn eu cadw gan aelodau teulu brenhinol Tsieina mewn llewys eu gwisgoedd. Mae gan Gi Pecin flew hir yn enwedig ar ei gluniau, coesau blaen, cynffon, a bysedd y traed. Mae ganddo ben llydan a gwastad, gyda chlustiau llipa a thrwyn byr a chrychlyd. Gall ei gôt o flew fod yn unlliw neu'n frith, ond ym mhob ci mae'r trwyn a'r geg yn ddu.[2]