![]() | |
Enghraifft o: | math o gi ![]() |
---|---|
Math | pastoral dog, ci gwaith ![]() |
![]() |
Ci sodli neu warchotgi a ddefnyddir wrth fugeilio defaid yw ci defaid,[1][2] ci bugail,[1][2] defeitgi,[3] bugeilgi,[4] preiddgi,[5] neu yn Ne Ddwyrain Cymru ci 'rhafod.[1] Mae bridiau o gŵn defaid yn tueddu i fod tua 60 cm (2 droedfedd) o daldra ac yn pwyso dros 23 kg (50 o bwysau).[6]
Fel rheol mae'r ci defaid yn gi o faint canolig gyda thrwyn pigfain. Mae rhan fwyaf o gŵn defaid wedi cael eu geni yn dda ar gyfer bugeilio, am mai nhw yw rhai o'r cŵn mwyaf ufudd yn y byd. Cŵn bywiog a chyfeillgar ydynt, ac mae llawer ohonynt bellach yn anifeiliad anwes. Mae'r gwahanol fridiau wedi tarddu yn Ewrop yn bennaf ac wedi lledaenu drwy sawl rhan o'r byd, yn enwedig yn Awstralia a Gogledd America. Ymhlith y bridiau mae'r Ci Defaid Cymreig (Bugeilgi Cymreig), y Ci Defaid Barfog (Coli Barfog), Ci Defaid Shetland, Ci Defaid y Goror (Coli'r Goror), y Ci Defaid Almaenig (Ci Alsás), y Ci Defaid Awstralaidd, a'r Ci Defaid Catalwnaidd.
Gwerthwyd y ci defaid drutaf yn y byd am £14,805 yn 2016.[7]