Cic dros ben

Llun o ddyn sydd ar fin cicio pêl
Diego Costa, ymosodwr Atlético Madrid, yn gwneud cic dros ben mewn gêm bêl-droed yn erbyn Almería

Cic dros ben yw symudiad corfforol mewn pêl droed pan mae'r chwaraewr yn taflu ei gorff yn yr awyr tra'n cicio'r bêl tuag yn ôl, i geisio sgorio gôl. Mae'r symudiad acrobatig hwn yn gymhleth ac yn anghyffredin mewn gemau pêl-droed cystadleuol ac yn cael ei ddathlu mewn newyddiaduriaeth oherwydd hynny, yn enwedig pan fo'r chwaraewr yn sgorio.

Cafodd y gic dros ben ei dyfeisio yn Ne America, o bosib mor gynnar â'r 19g, yn ystod cyfnod o ddatblygiad mewn hanes pêl-droed, a cheir peth anghytuno o ran ble yn union y gwnaed y symudiad am y tro cyntaf. Mae'n fwy na thebyg i hyn ddigwydd ym Mrasil, Tsile neu Periw.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne