Ciconiiformes

Ciconiad
Ciconiiformes
Amrediad amseryddol:
Oligosen cynnar i'r presennol
Ciconia cyfrwybig
(Ephippiorhynchus senegalensis)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Ciconiiformes
Genera

Urdd o adar tal, main, hirgoes yw'r Ciconiiformes (Cymraeg: y Ciconiaid; weithiau y 'chwiboniaid') gyda phigau hir. Gelwir y teulu yn Ciconiidae, sef yr unig deulu o fewn urdd y Ciconiiformes, a oedd unwaith yn cynnwys llawer mwy o deuluoedd ond sydd bellach yn ddarfodedig.[1]

Fe'u ceir mewn amrywiaeth o ardaloedd, ond fel arfer, maen nhw'n hoff iawn o gynefionoedd sych. Maent yn perthyn yn agos i'r Crehyrod, y Llwybigau (spoonbills) a'r Ibis. Yn wahanol i'r teuluoedd hyn, ni fedrant olchi eu hunain wedi iddyn nhw fwyta pysgod. Maen nhw'n fud (ni allant wneud unrhyw sain) ar wahân i sŵn clebran wrth iddyn nhw glepian eu pigau'n sydyn. Mae llawer o'r rhywogaethau'n fudol.

Eu bwyd, fel arfer, yw llyffantod, pryfaid, pryfaid genwair (mwydod) ac adar ac anifeiliaid bychan eraill. Ceir 19 rhywogaeth sy'n fyw heddiw, mewn chwe genws.

  1. del Hoyo, J. Elliott, A. & Sargatal, J. (1992) Handbook of the Birds of the World. Volume 1: Ostrich to Ducks. Lynx Edicions. ISBN 84-87334-10-5.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne