Cilcain

Cilcain
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,341 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1772°N 3.2342°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000184 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ176651 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHannah Blythyn (Llafur)
AS/au y DUBecky Gittins (Llafur)
Map

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Cilcain[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif i'r gorllewin o dref Yr Wyddgrug, ac ychydig i'r dwyrain o gopa Moel Llys-y-Coed, gyda Moel Famau i'r de-orllewin. Ceir yno eglwys, siop, tafarn, swyddfa'r post a neuadd y pentref.

Cofnodir yr eglwys gyntaf yn 1291. Ar un adeg roedd plwyf Cilcain yn cynnwys Cefn, Llan (neu Tre'r Llan), Llystynhunydd (neu Glust), Llys y Coed, Maes y Groes, Mechlas (neu Dolfechlas) a Trellyniau; erbyn hyn mae gryn dipyn yn llai.

Codwyd ysgol trwy danysgrifiad cyhoeddus yn y pentref yn 1799. Mae adeilad yr ysgol yn dŷ preifat erbyn heddiw. Cynhelir Gŵyl Cilcain bob blwyddyn i hybu'r celfyddydau a diwylliant.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[4]

Yr Hen Ysgol (1799), Cilcain.
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 13 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne