Iaith Dyrcaidd yw Cirgiseg a siaredir yn frodorol gan y Cirgisiaid, sydd yn byw yng Nghirgistan ac ym Mynyddoedd Pamir ar ffiniau Tajicistan, Affganistan, a gorllewin Tsieina. Perthyna Cirgiseg i gangen ogledd-orllewinol yr ieithoedd Tyrcaidd a elwir ieithoedd Kipchak, ac yn debyg felly i Gasacheg, Karakalpak, a Nogay.
Mae'r enghreifftiau cynharaf o Girgiseg ysgrifenedig yn dyddio o'r 19g ac yn cynnwys nodweddion o iaith lafar y Cirgiseg wedi eu hychwanegu at yr iaith Tsagadai safonol, a hynny drwy gyfrwng yr wyddor Arabeg. Yn 1923 diwygwyd a safonwyd yr wyddor Arabeg ar gyfer yr iaith, ac yn 1929 newidiwyd i'r wyddor Ladin. Yn 1940 mabwysiadwyd system o ysgrifennu Cirgiseg ar sail yr wyddor Gyrilig, a dyma'r drefn a barheir hyd heddiw yng Nghirgistan. Defnyddir yr wyddor Arabeg o hyd yn Tsieina.