Gêm adeiladu-dinas yw Cities: Skylines a ddatblygwyd gan Colossal Order ac a gyhoeddwyd gan Paradox Interactive. Mae'r gêm yn efelychiad adeiladu-dinas penagored ar gyfer un chwaraewr. Mae chwaraewyr yn cymryd rhan mewn cynllunio trefol trwy reoli parthau, lleoli ffyrdd, trethiant, gwasanaethau cyhoeddus, a chludiant cyhoeddus yr ardal. Mae chwaraewyr yn gweithio i gynnal gwahanol elfennau o'r ddinas, gan gynnwys ei chyllid, iechyd, cyflogaeth a lefelau llygredd. Mae chwaraewyr hefyd yn gallu cynnal dinas mewn modd blwch-tywod, sy'n darparu rhyddid creadigol anghyfyngedig i'r chwaraewr.
Mae Cities: Skylines yn ddatblygiad o deitlau Cities in Motion blaenorol gan Colossal Order, a oedd yn canolbwyntio ar ddylunio systemau cludo effeithiol. Er bod y datblygwyr ar y pryd yn teimlo bod ganddyn nhw'r arbenigedd technegol i ehangu i gêm efelychu dinas lawn, fe oedodd eu cyhoeddwr Paradox, gan ofni poblogrwydd SimCity yn y farchnad. Fodd bynnag, ar ôl methiant critigol gêm SimCity 2013, fe wnaeth Paradox cytuno i greu'r gêm. Nod y datblygwr oedd creu peiriant gêm a oedd yn gallu efelychu arferion dyddiol bron i filiwn o ddinasyddion unigryw, wrth gyflwyno hyn i'r chwaraewr mewn ffordd syml - yn caniatáu i'r chwaraewr ddeall yn hawdd amryw o broblemau yn nyluniad eu dinas. Mae hyn yn cynnwys tagfeydd traffig realistig, ac effeithiau tagfeydd ar wasanaethau a rhanbarthau dinasoedd. Ers rhyddhau'r gêm, mae amryw ehangiadau a chynnwys lawrlwythiadwy eraill wedi'u rhyddhau ar gyfer y gêm. Mae'r gêm hefyd yn cefnogi cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr.
Rhyddhawyd y gêm gyntaf ar gyfer systemau Windows, macOS, a Linux ym mis Mawrth 2015, gyda phacborth i gonsolau gêm Xbox One a PlayStation 4 yn cael eu rhyddhau yn 2017, ac ar gyfer y Nintendo Switch ym mis Medi 2018 a ddatblygwyd gan Tantalus Media. Derbyniodd y gêm adolygiadau ffafriol gan feirniaid, ac roedd yn llwyddiant masnachol, gyda mwy na chwe miliwn o gopïau wedi'u gwerthu ar bob platfform erbyn mis Mawrth 2019.