Clarence Kingsbury | |
---|---|
Ganwyd | 3 Tachwedd 1882 ![]() Portsmouth ![]() |
Bu farw | 4 Mawrth 1949 ![]() Portsmouth ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol ![]() |
Plant | Leoni Kingsbury, Thelma Kingsbury ![]() |
Chwaraeon |
Seiclwr trac Seisnig oedd Clarence Brickwood Kingsbury (3 Tachwedd 1882, Portsmouth, Hampshire[1][2] – 4 Mawrth 1949, Portsmouth[3]), a gystadlodd yng Ngemau Olympaidd 1908, lle'r enillodd y fedal aur yn y ras 20 cilometr ac yn y Pursuit Tîm. Gorffennodd yn bumed yn y ras 5000 metr pan aeth allan o'r gystadleuaeth yn y rownd gyn-derfynol. Cystadlodd hefyd yn y gystaleuaeth sbrint gan fynd drwodd i'r rownd derfynol, ond ni wobrwywyd unrhyw fedalau gan i'r gystadleuaeth redeg yn hirach na'r cyfyngiad amser.[4]
Roedd Kingsbury yn byw yn 41 Queens Road, Portsmouth, Hampshire yn ystod cyfrifiad 1901, rhestrwyd ei alwedigaeth fel 'Asiant Beiciau'.[2]