![]() | |
Math | tref, ardal ddi-blwyf ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Hyndburn |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerhirfryn (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.7792°N 2.3884°W ![]() |
Cod OS | SD745315 ![]() |
Cod post | BB5 ![]() |
![]() | |
Tref ddiwydiannol fach yn Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Clayton-le-Moors.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Hyndburn. Saif 2 filltir i'r gogledd o dref Accrington ar lannau Gamlas Leeds a Lerpwl.
Datblygodd ar ddechrau'r 19g o gyfuno dwy bentrefi – Oakenshaw i'r gogledd-orllewin o'r gamlas ac Enfield i'r de-ddwyrain.
Ar 7 Tachwedd 1883 fe roedd trychineb yn y Moorfield Colliery ar gyffiniau Clayton-le-Moors, pan laddwyd 68 o ddynion a hogiau, y ieuenga yn ddeg mlwydd oed. Heddiw mae yna Wal Goffa ar y lon A678 gerllaw i'r lle roedd y glofa yn sefyll.