![]() | |
Enghraifft o: | math o chwaraeon, chwaraeon olympaidd ![]() |
---|---|
Math | combat sport, chwaraeon olympaidd ![]() |
Yn cynnwys | Q3381658, attack, épée fencing ![]() |
![]() |
Cleddyfa yw'r grefft ymladd â chleddyf. Cafodd ei datblygu yn wreiddiol ar faes y gad, ac wedyn, fel ffordd o amddiffyn eich anrhydedd mewn gornest (yn aml iawn hyd at farwolaeth un o'r gornestwyr).
Heddiw, mae cleddyfa mor boblogaidd ag erioed, ond nid mor ddifrifol, ac ychydig iawn sy'n cael eu hanafu.[1] Fe'i defnyddir yn bennaf fel mabolgamp neu i archwilio ffurfiau hanesyddol o groesi cleddyfau. Mae cleddyfa yn un o bedair camp sydd wedi ymddangos ym mhob Gemau Olympaidd Modern ers 1896. Y gweddill yw athletau, seiclo, nofio a gymnasteg.
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar gleddyfa fel mabolgamp orllewinol fodern, a cheir sôn am gleddyfa hanesyddol a chleddyfa dwyreiniol.