Math | tref, cyrchfan lan môr, ardal ddi-blwyf |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln |
Gefeilldref/i | Königswinter |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Lincoln (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 9.4 km² |
Cyfesurynnau | 53.5533°N 0.0216°W |
Cod OS | TA310081 |
Cod post | DN35 |
Tref arfordirol a chyrchfan lan môr yn sir seremonïol Swydd Lincoln, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Cleethorpes.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn awdurdod unedol Bwrdeistref Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Cleethorpes boblogaeth o 39,505.[2]
Yn y 19eg ganrif, roedd yn bentref pysgota, ond wedi adeiladu'r rheilffyrdd rhwng trefi'r Canolbarth megis Sheffield a'r arfordir, tyfodd yn gyflym. Bu'n lle poblogaidd i bobl o drefi diwydiannol fynd ar wyliau.
Mae Caerdydd 314.2 km i ffwrdd o Cleethorpes ac mae Llundain yn 227 km. Y ddinas agosaf ydy Kingston upon Hull sy'n 29.6 km i ffwrdd. Lleolir ar linell hydred Greenwich.