Clefydau galwedigaethol yr ysgyfaint

Mae Clefydau galwedigaethol yr ysgyfaint (niwmoconiosis) yn derm am grŵp o glefydau’r ysgyfaint sy’n cael eu hachosi drwy anadlu llwch penodol yn eich gweithle. Maent yn mynd yn sownd yn eich ysgyfaint ac yn achosi creithio. Y math mwyaf cyffredin yw niwmoconiosis y glöwr, a achosir drwy anadlu llwch glo. Math arall yw silicosis, a achosir drwy anadlu llwch silica ac asbestosis, a achosir drwy anadlu asbestos. Yn aml, bydd cyfnod hir (ugain mlynedd neu fwy) rhwng anadlu’r llwch a dangos symptomau, felly mae achosion newydd yn aml yn arwydd o amodau gweithio yn y gorffennol.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne