![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 781, 752 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3,321.85 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.0867°N 3.1498°W ![]() |
Cod SYG | W04000265 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
![]() | |
Pentref bychan a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Cleirwy[1] neu Cleiro (Saesneg: Clyro). Saif yn ardal Maesyfed yn agos i'r ffin â Lloegr, tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin o'r Gelli Gandryll a 15 milltir i'r dwyrain o Aberhonddu, ar briffordd yr A438. Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd i Francis Kilvert fod yn gurad yma yn y 1870au, ac ysgrifennu yn ei ddyddiaduron am fywyd y pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]