Clive Sinclair | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Clive Marles Sinclair ![]() 30 Gorffennaf 1940 ![]() Richmond upon Thames ![]() |
Bu farw | 16 Medi 2021 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | entrepreneur, peiriannydd, dyfeisiwr, gwyddonydd cyfrifiadurol ![]() |
Gwobr/au | Marchog Faglor, Mullard Award ![]() |
Gyfeisiwr a dyn busnes o Loegr oedd Syr Clive Marles Sinclair (30 Gorffennaf 1940 – 16 Medi 2021). Roedd e'n yn fwyaf adnabyddus am ei waith ym maes electroneg defnyddwyr ar ddiwedd y 1970au a dechrau'r 1980au.
Cafodd Sinclair ei eni ger Richmond upon Thames, Surrey, yn fab i'r peiriannydd George Sinclair a'i wraig, Thora Edith Ella Marles. Gadawodd Lundain gyda'i fam i aros gyda modryb yn Nyfnaint, lle teithion nhw i Teignmouth yn y pen draw. Daeth tad Sinclair o hyd i dŷ yn Bracknell yn Berkshire. Cafodd ei frawd Iain ei eni ym 1943 a'i chwaer Fiona ym 1947.[1]
Ym 1961, cofrestrodd y cwmni Sinclair Radionics Ltd. Ffurfiwyd y cwmni ar 25 Gorffennaf 1961.[2] Dyluniodd gitiau PCB a thrwyddedu rhywfaint o dechnoleg.[3] Yna cymerodd ei ddyluniad ar gyfer radio poced transistor bach a cheisiodd gefnwr ar gyfer ei gynhyrchu ar ffurf cit. Yn y diwedd daeth o hyd i rywun a gytunodd i brynu 55% o'i gwmni am £3,000 ond ni aeth y fargen drwodd.[2]
Erbyn diwedd y 1960au a dechrau'r 1970au, roedd Sinclair Radionics yn cynhyrchu cyfrifianellau electronig llaw, setiau teledu bach, a watshis arddwrn ddigidol Black Watch.[4] Yn y pen draw, gweithiodd Sinclair gyda'r Bwrdd Menter Cenedlaethol (NEB), a brynodd ddiddordeb o 43% yn y cwmni ym 1976. Symleiddiodd yr NEB linell gynnyrch Sinclair Radionics, gan werthu i ffwrdd y llinellau gwylio a theledu, a dod â Norman Hewitt i mewn fel rheolwr gyfarwyddwr i gynorthwyo Sinclair. Erbyn 1979, dewisodd NEB i chwalu Sinclair Radionics, gan gadw ei adran offerynnau fel Sinclair Electronics, a gwerthu ei adran deledu i Binatone a'i adran gyfrifiannell i ESL Bryste. Gadawodd Sinclair ei hun y cwmni ar y pwynt hwn.[5]
Edrychodd Sinclair i adeiladu cyfrifiadur personol. Ym mis Mai 1979, cychwynnodd Jim Westwood y prosiect ZX80 yn Science of Cambridge Ltd; fe'i lansiwyd ym mis Chwefror 1980 am £79.95 ar ffurf cit a £99.95 wedi'i adeiladu'n barod.[6] Roedd y ZX80 yn llwyddiannus ar unwaith, ac ar wahân i werthiannau yn y DU, ceisiodd Sinclair hefyd gyflwyno'r cyfrifiadur i'r Unol Daleithiau. Yn dilyn hynny, ailenwyd Science of Cambridge yn Sinclair Computers Ltd, ac yna eto i Sinclair Research Ltd.[7][8]
Ym mis Chwefror 1982, cafodd Timex drwydded i gynhyrchu a marchnata cyfrifiaduron Sinclair yn yr Unol Daleithiau dan yr enw Timex Sinclair. Ym mis Ebrill, lansiwyd y ZX Spectrum am £125 ar gyfer y fersiwn 16kB RAM a £175 ar gyfer y fersiwn 48 kB.[9]