Cloc pendil uchel wedi'i yrru â phwysau, gyda'r pendil y tu mewn i dŵr eu canol y casyn yw cloc wyth niwrnod (cloc mawr, cloc angor neu cloc hir). Mae clociau o'r arddull hon fel arfer yn 1.8–2.4 metr (6–8 troedfedd) o uchder. Mae'r casyn yn aml yn cynnwys addurniad wedi'i gerfio'n gywrain ar y to (neu'r bonet), sy'n amgylchynu ac yn fframio'r ddeial, neu wyneb y cloc. William Clement, gwneuthurwr clociau o Loegr, sy'n cael y gydnabyddiaeth am ddatblygu'r ffurf hon yn 1670. Tan ddechrau'r 20fed ganrif, clociau pendil oedd y dechnoleg cadw amser fwyaf cywir yn y byd, ac roedd clociau casyn hir, oherwydd safon eu cywirdeb, yn cael eu defnyddio ar aelwydydd a gan fusnesau. Heddiw cânt eu cadw'n bennaf oherwydd eu gwerth addurnol a hynafol, gan fod dulliau analog a digidol bellach yn cael eu defnyddio i gadw amser.
Daeth y cloc hir i fodolaeth yn sgil dyfeisio mecanwaith gollygdod angor gan Robert Hooke o gwmpas y flwyddyn 1658. Cyn hynny, roedd symudiadau cloc pendil yn defnyddio mecanwaith gollyngdod ymylol, a oedd angen siglenni pendil eang iawn o tua 80-100°.[1] Ni ellid gosod pendiliau hir gyda siglenni llydan o'r fath mewn casyn, felly roedd gan y rhan fwyaf o glociau bendiliau byr.
Roedd y fecanwaith newydd yn lleihau sigl y pendil i tua 4° i 6°[1] gan ganiatáu i wneuthurwyr clociau ddefnyddio pendiliau hirach gyda “churiadau” arafach. Roedd y rhain yn defnyddio llai o bŵer gan ganiatáu i glociau redeg yn hwy rhwng eu weindio, yn achosi llai o ffrithiant a gwisgo wrth symud, ac roeddent yn fwy cywir.[1] Mae bron pob cloc hir yn defnyddio pendil eiliad (a elwir hefyd yn bendil “brenhinol” [2] ) sy'n golygu bod pob sigliad (neu hanner-cyfnod) yn cymryd un eiliad. Mae'r rhain tua metr (39 modfedd) o hyd (hyd at ganol y bob), ac felly angen casyn cul hir. Roedd casys hir eisoes yn cael eu cynhyrchu am rai degawdau cyn dyfeisio'r clod angor er mwyn rhoi gollyngdod hir i bweru'r pwysau. Pan ddechreuwyd defnyddio pendil eiliad, roedd y casyn hir yn ddelfrydol ar ei gyfer.[3][4]
Yn draddodiadol, gwnaed clociau hir gyda dau fath o symudiad: symudiadau wyth diwrnod ac un diwrnod (30 awr). Unwaith yr wythnos yn unig y byddai angen weindio cloc gyda symudiad wyth diwrnod, tra byddai rhaid weindio clociau 30 awr bob dydd. Mae clociau wyth diwrnod yn aml yn cael eu gyrru gan ddau bwysau - un yn gyrru'r pendil a'r llall yn fecanwaith taro, a oedd fel arfer yn cynnwys cloch neu glychau. Mae symudiadau o'r fath fel arfer yn cynnwys dau dwll, un ar bob ochr i'r ddeial i weindio pob un. Mewn cyferbyniad, roedd gan glociau 30 awr un pwysau yn aml i yrru'r mecanweithiau cadw amser a tharo. Gwnaed rhai clociau 30 awr gyda thyllau ffug, ar gyfer cwsmeriaid a oedd yn dymuno rhoi'r argraff bod yr aelwyd yn gallu fforddio'r cloc wyth diwrnod. Mae symudiadau wyth diwrnod i bob cloc taro hir modern. Mae'r rhan fwyaf o glociau hir yn cael eu gyrru gan raffau, sy'n golygu bod y pwysau yn cael ei ddal ar raff. Mae mantais fecanyddol y trefniant hwn yn dyblu'r amser rhedeg a ganiateir gan ostyngiad pwysau penodol.
Yn ôl yr Oxford English Dictionary, mae'r enw Saesneg 'Grandfather Clock' yn tarddu o gân o'r enw My Grandfather Clock a ddaeth yn boblogaidd yn y 1870au.[5]
|deadurl=
ignored (help)
Grandfather's clock [suggested by a song which was popular about 1880], a furniture-dealer's name for the kind of weight-and-pendulum eight-day clock in a tall case, formerly in common use; also grandfather clock (now the usual name): [1876 H. C. WORK Grandfather's Clock, My grandfather's clock was too large for the shelf, So it stood ninety years on the floor.]