Clociwr

Cerflun y clociwr gan Jean Cuypers. yn Square du Petit Sablon, Brwsel.

Crefftwr sy'n gwneuthuro a thrwsio clociau yw clociwr neu gwneuthurwr clociau.

The Worshipful Company of Clockmakers, un o Gwmnïau Lifrai Dinas Llundain, yw'r sefydliad horologeol hynaf yn y byd. Sefydlwyd trwy Siarter Frenhinol gan y Brenin Siarl I ym 1631.[1] Gwneuthurur y mwyafrif o glociau modern mewn ffatrïoedd, felly mae nifer o glocwyr modern yn trwsio clociau'n unig, er bod nifer o fusnesau yn parhau i wneud clociau cain trwy ddulliau traddodiadol.

Gelwir crefftwr sy'n gwneuthuro a thrwsio oriorau yn oriadurwr.

  1. (Saesneg) The Worshipful Company of Clockmakers. Adalwyd ar 24 Medi 2013.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne