Clodius Albinus | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 150 ![]() Hadrumetum ![]() |
Bu farw | 19 Chwefror 197 ![]() Lugdunum ![]() |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | seneddwr Rhufeinig, llywodraethwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig ![]() |
Tad | Ceionius Postumius ![]() |
Mam | Aurelia Messalina ![]() |
Plant | Pescennius Princus ![]() |
Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd Decimus Clodius Ceionius Septimius Albinus, mwy adnabyddus fel Clodius Albinus (25 Tachwedd 147 – 19 Chwefror 197). Wedi marwolaeth yr ymerawdwr Pertinax, cyhoeddodd ei hun yn ymerawdwr.
Ganed ef yn Hadrumetum, yn nhalaith Affrica, i deulu uchelwrol. Ymunodd a'r fyddin, a thynnodd sylw ato ei hun wrth ymadd yn erbyn gwrthryfel Avidius Cassius yn 175; ysgrifennodd yr ymerawdwr Marcus Aurelius ddau lythyr ato yn ei ganmol.
Daeth yn llywodraethwr talaith Gallia Belgica ac yna yn llywodraethwr Prydain. Pan lofruddiwyd yr ymerawdwr Pertinax, gwerthodd Gard y Praetoriwm yr orsedd i'r sawl a gynigiai fwyaf o arian iddynt, y seneddwr cyfoethog Didius Julianus. Gwrthryfelodd tri llywodraethwr yn ei erbyn, Pescennius Níger yn Syria, Septimius Severus yn Pannonia ac Albinus ym Mhrydain. gyda chefnogaeth y milwyr yng Ngâl hefyd.
Ar y dechrau, gwnaeth Albinus gynghrair a Septimius Severus yn erbyn Pescennius Níger. Wedi i Niger gael ei orchfygu ym Mrwydr Issos yn 194, bu Albinus a Severus yn ymladd yn erbyn ei gilydd am rai blynyddoedd. Gorchfygwyd byddin Albinus ger Lugdunum ar 19 Chwefror 197, a lladdwyd ef ei hun yn y frwydr.