Math | clwb golff ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.963699°N 3.914253°W ![]() |
![]() | |
Clwb golff mynyddig yn gwasanaethu ardal 'Stiniog, Gwynedd yw Clwb Golff Ffestiniog. Mae'r clwb wedi'i leoli tua hanner milltir i'r gorllewin o bentref Llan Ffestiniog wrth ymyl ffordd y B4391 o Lan Ffestiniog i'r Bala.
Ffurfiwyd y clwb presennol yn 1967 yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Ffestiniog. Aeth y clwb gwreiddiol, a ffurfiwyd yn 1893, i'r wal yn 1935 yn ystod y dirwasgiad mawr. Saif y clwb tua 900 metr uwchlaw lefel y môr, sy'n ei wneud yn un o gyrsiau golff uchaf Cymru.[1]
Cwrs golff 9 twll (par 68) yw hwn a'i hyd yw 4,602 metr. Mae'r cwrs yn cynnwys rhwystr dŵr o'r enw Llyn Cefn ar dwll rhif 6. Er mwyn diogelu'r grîns rhag y defaid sy'n pori ar hyd y cwrs, mae ffensys trydan wedi eu gosod o gwmpas pob un ohonynt.