Clydau

Clydau
Eglwys Sant Clydai, Clydau
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth715 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.99°N 4.55°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000419 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan a chymuned yng ngogledd Sir Benfro, Cymru, yw Clydau (ceir yr amrywiad Clydai; hefyd Clydey ar rai mapiau Saesneg). Saif tua 8 milltir i'r de-orllewin o dref Castell Newydd Emlyn ac 13 km i'r de-ddwyrain o Aberteifi. Dyddia Eglwys Sant Clydai o'r 19g, ond mae'r tŵr yn dyddio o'r 13g. Tu mewn iddi ceir tair carreg gydag arysgrifau o'r 5ed a'r 6g, dwy gydag arysgrif dwyieithog, Lladin ac Ogam, a'r drydedd yn Lladin yn unig.

Heblaw Clydau ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Tegryn, y pentref mwyaf yn y gymuned, Star a Bwlch-y-groes. Saif chwarel lechi Y Glog o fewn y gymuned. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 681, gyda 91% ohonynt ym medru'r Gymraeg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[2]


  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  2. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne