![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.357651°N 3.946239°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref bychan gwledig yn sir Ceredigion yw'r Cnwch Coch (weithiau 'Cnwch-coch'). Fe'i lleolir yng ngogledd y sir tua 8-9 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth.
Gorwedd y Cnwch Coch ym mhlwyf eglwysig Llanfihangel-y-Creuddyn, tua hanner ffordd rhwng pentref Llanfihangel, i'r gogledd, a'r Trawscoed i'r de. Mae'n rhan o gymuned Trawsgoed.
Ceir eglwys yn y pentref. Tardda ffrwd Afon Magwr ger y Cnwch Coch, gan lifo wedyn dros gwrs byr i ymuno ag Afon Ystwyth ger Abermagwr.
Ystyr y gair cnwch yw "chwydd, crwmp"[1] (sef codiad tir yn yr achos yma): mae'n elfen gyffredin mewn enwau lleoedd yng ngogledd Ceredigion ond prin yw'r enghreifftiau y tu allan i'r ardal honno.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]