Enghraifft o: | math o organ, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | organ anifail, organ gyda cheudod organ, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | system dreulio |
Rhagflaenwyd gan | foregut |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
1: Y geg 2: Taflod 3: Tafod bach 4: Tafod 5: Dannedd 6: Chwarennau poer 7: Isdafodol 8: Isfandiblaidd 9: Parotid 10: Argeg (ffaryncs) 11: Sefnig (esoffagws) 12: Iau (Afu) 13: Coden fustl 14: Prif ddwythell y bustl 15: Stumog | 16: Cefndedyn (pancreas) 17: Dwythell bancreatig 18: Coluddyn bach 19: Dwodenwm 20: Coluddyn gwag (jejwnwm) 21: Glasgoluddyn (ilëwm) 22: Coluddyn crog 23: Coluddyn mawr 24: Colon trawslin 25: Colon esgynnol 26: Coluddyn dall (caecwm) 27: Colon disgynnol 28: Colon crwm 29: Rhefr: rectwm 30: Rhefr: anws |
Organ fechan sy’n rhan o’r system fustlog a sy’n cadw cronfa fechan o hylif y bustl yw coden y bustl. Mae’r bustl yn cael ei gynhyrchu gan yr iau cyn cael ei ryddhau i’r goden drwy’r drwythel afuol. Fel arfer mae rhwng 30 a 60 mililitr of fustl yn cael ei gadw oddi fewn i’r goden.
Pan mae bwyd sy’n cynnwys braster yn mynd drwy’r system dreulio mae’n gwneud i goden y fustl ryddhau bustl drwy ddwythell y fustl i’r dwodenwm er mwyn emylseiddio’r braster er mwyn i’r corff allu ei dreulio’n haws. Cymysgedd o ddwr a sawl halen hepatig yw’r bustl yn bennaf sydd hefyd yn cynnwys bilirwbin a gynhyrchir fel sgil-wastraff prosesu haearn yn y gwaed er mwyn ei gludo o’r corff.
Mae yna gerrig yn gallu ffurfio yn y goden weithiau sy’n gallu bod yn boenus tu hwnt a bydd angen triniaeth feddygol i gael gwared â nhw fel arfer.