![]() | |
Math | stadiwm ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberystwyth ![]() |
Sir | Aberystwyth ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.4104°N 4.0807°W ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cyngor Sir Ceredigion ![]() |
Maes pêl-droed yn nhref Aberystwyth, Ceredigion yw Coedlen y Parc (Saesneg: Park Avenue). Saif ger glan Afon Ystwyth yn rhan ddeheuol y dref. Mae'n gartref i C.P.D. Tref Aberystwyth, clwb pêl-droed sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru a hefyd C.P.D. Merched Tref Aberystwyth a nifer o dimau ieuenctid a thîm anabl y dref. Mae Coedlen y Parc yn dal uchafswm o 5,000 o dorf gyda 1,002 o seddi. Ers tymor 2017-18 bu gan y maes llain 3G artiffisial yn hytrach na glaswellt.
Mae sawl ffeinal Cwpan Cynghrair Cymru wedi eu chwarae ar y maes a chwaraeodd George Best yno i dîm Ieuectid Gogledd Iwerddon bedair diwrnod cyn ei ben-blwydd yn 17 oed ar 18 Mai 1963.
Yn ddiwedd tymor 2017-18 dechreuwyd ar waith adeiladu fflatiau ar ochr ddeheuol y maes, sy'n gorwedd ar hyd Afon Rheidol. Bydd hyn yn rhoi teimlad mwy caëdig i'r maes.